Straeon IRIS

Cynllun Ffilm Fer newydd i gefnogi straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT) yn y Gymraeg

S4C a Ffilm Cymru Wales yn cyd-weithio â Gwobr Iris

Bydd y ffilm fer yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar achlysur pen-blwydd yr ŵyl yn 10 oed yn 2016

Mae trefnwyr Gwobr Iris heddiw (6 Awst 2015) wedi lansio cynllun ffilm fer LHDT newydd yn yr iaith Gymraeg gyda chefnogaeth S4C a Ffilm Cymru Wales trwy BFI NET.WORK.
Nod y cynllun - o'r enw Straeon Iris - yw annog rhagor o straeon LHDT ar gyfer y sgrin, o Gymru, am Gymru, ac yn y Gymraeg. Mae'r cynllun yn agored i ysgrifenwyr unigol yn ogystal â phartneriaeth rhwng ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr gyda'r bwriad o ddatblygu chwe sgript ffilm fer cyn dewis un ar gyfer ei chynhyrchu. "Rydym wedi rhannu ein straeon gyda chynulleidfa mor eang â phosib ers bron i 10 mlynedd. Yn ystod y ddegawd rydym wedi clywed straeon LGBT anhygoel mewn amryw o ieithoedd ar draws y byd. Ar achlysur ein pen-blwydd yn 10 oed, mae'n addas iawn ein bod ni'n troi ein golygon tuag adref, ac yn cefnogi straeon LHDT yn yr iaith Gymraeg," meddai Andrew Pierce Cadeirydd yr Ŵyl. "Rydym yn falch iawn o gyd-weithio â S4C a Ffilm Cymru Wales, ill dau yn gefnogwyr diflino o dalentau newydd yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg. Drwy'r bartneriaeth hon byddwn yn cyflwyno straeon LGBT o Gymru yn y Gymraeg i gynulleidfa ryngwladol drwy ein rhwydwaith fyd-eang o bartneriaid yr ŵyl mewn 15 o wledydd," mae'n ychwanegu. Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C; "Mae Straeon Iris yn brosiect cyffrous ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Gwobr Iris a Ffilm Cymru Wales. Ers sefydlu S4C, bu'r sianel yn llysgennad ar gyfer drama yn yr iaith Gymraeg ac rydym yn ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth ar y sgrin. Mae Straeon Iris yn argoeli i fod yn gyfle gwych i roi llwyfan i draws doriad eang o leisiau yn ogystal â chludo'r Gymraeg ar draws y byd." Ychwanegodd Tracy Spottiswoode, Rheolwr BFI NET.WORK Ffilm Cymru Wales, "Mae Straeon Iris yn fenter newydd pwysig sy'n rhan o'n hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth, ac adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog o leisiau a storïau o Gymru. Daw'r cyfle cyffrous yma yn dilyn ein cynllun sgriptio Cymraeg diweddar Y Labordy yn ogystal â mentrau ffilmiau byrion Beacons/Bannau, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein gwaith gyda Gŵyl Gwobr Iris, sefydliad rydym ni wedi ei gefnogi ers y dechrau!" Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn ystod dathliadau Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yn 10 oed yn Hydref 2016. Cewch rhagor o wybodaeth drwy e-bostio berwyn@irisprize.org FFILM HYRWYDDO AR GAEL YMA   

• New Short Film scheme to support Welsh Language LGBT stories

• S4C and Ffilm Cymru Wales work in partnership with the Iris Prize

• Short film to premiere at festival’s 10th anniversary in 2016

Organisers of the Iris Prize have today (6 August 2015) launched a new Welsh language LGBT short film scheme supported by S4C and Ffilm Cymru Wales via BFI NET.WORK.

The aim of the scheme - called Straeon Iris (Iris Stories) - is to encourage more LGBT stories for the screen, from Wales, about Wales, and in Welsh. The scheme is open to individual writers and also writer and director teams and will focus on developing up to six short film scripts before selecting one to go into production. “We have been sharing our stories with as wide an audience as possible for almost 10 years. During this time we’ve seen some amazing LGBT stories in many languages from all over the world. As we reach our 10th anniversary I think it is only appropriate for Iris to look closer to home and support LGBT story telling through the medium of the Welsh language,” said Andrew Pierce Festival Chair. “We are delighted to be working in partnership with S4C and Ffilm Cymru Wales, who, between them have an unprecedented track record for supporting Welsh talent in Welsh and English. Through this partnership we will see LGBT stories from Wales in Welsh reach an international audience as we tap into our global network of partner festivals in 15 countries,” he added. Gwawr Martha Lloyd, S4C Content Commissioner for Drama says; "Straeon Iris is a truly exciting project and we’re looking forward to working in partnership with the Iris Prize Festival and Ffilm Cymru Wales. As well as being an advocate for new Welsh drama, S4C is committed to reflecting diversity on screen. Straeon Iris promises to be an exciting opportunity for a cross section of voices to be heard, and will take the Welsh language across the world." Tracy Spottiswoode, BFI NET.WORK Manager at Ffilm Cymru Wales added, “Straeon Iris is an important addition in our commitment to supporting diversity, reflecting the rich variety of voices and stories from Wales. This exciting opportunity follows our recent Welsh language script writing scheme Y Labordy and current short film initiative Beacons/Bannau, and we’re looking forward to expanding our work with the Iris Prize Festival, who we’re pleased to have supported since they started!” The finished film will premier in Cardiff during the Iris Prize Film Festival’s 10th anniversary celebrations in October 2016. Please request an application form by e-mailing berwyn@irisprize.org VIEW PROMOTIONAL FILM HERE!