Straeon Iris 2

• Cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg yn dychwelyd
• S4C a Ffilm Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwobr Iris
• Dangosiad cyntaf ffilm fer yn agoriad gŵyl ffilm 2018 yng Nghaerdydd

• Welsh Language LGBT short film scheme returns
• S4C and Ffilm Cymru Wales work in partnership with the Iris Prize
• Short film to premiere at opening of 2018 film festival in Cardiff
Heddiw (11 Awst 2017), mae trefnwyr Gwobr Iris yn lansio Straeon Iris 2, sef cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg gyda chefnogaeth S4C a Ffilm Cymru drwy BFI NETWORK. Nod y cynllun yw annog rhagor o straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar gyfer y sgrin, o Gymru, am Gymru ac yn Gymraeg. Mae'r cynllun ar agor i awduron unigol a thimau o awduron a chyfarwyddwyr, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu hyd at chwe ffilm fer cyn dewis un i gael ei chynhyrchu. "Rydyn ni wedi bod yn rhannu ein straeon gyda chynulleidfaoedd mor eang â phosibl ers bron i ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni wedi gweld straeon anhygoel am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws mewn amrywiaeth o ieithoedd ac o bob cwr o'r byd. Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n credu ei bod hi'n briodol i Iris weithio ychydig yn nes at adref a chefnogi straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws sy'n cael eu hadrodd yn Gymraeg," meddai Cadeirydd yr Ŵyl, Andrew Pierce. "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth unwaith eto gydag S4C a Ffilm Cymru sydd, rhyngddyn nhw, â hanes rhagorol o gefnogi doniau Cymru. Drwy'r bartneriaeth yma, byddwn ni'n gweld straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws o Gymru ac yn Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfa ryngwladol wrth i ni fanteisio ar ein rhwydwaith fyd-eang o chwaer-ŵyliau mewn ugain o wledydd," ychwanegodd. Meddai Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C: "Mae Straeon Iris yn brosiect gwirioneddol gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio mewn partneriaeth am yr ail dro gyda Gŵyl Gwobr Iris a Ffilm Cymru. Yn ogystal â bod yn hyrwyddwr dramâu Cymraeg newydd, mae S4C wedi ymrwymo i ddangos amrywiaeth ar y sgrin. Mae Straeon Iris yn addo bod yn gyfle cyffrous i drawstoriad o leisiau gael eu clywed, ac yn ffordd o fynd â'r Gymraeg i bob cwr o'r byd." Ychwanegodd Tracy Spottiswoode, Rheolwr BFI NETWORK yn Ffilm Cymru: "Mae Straeon Iris yn ychwanegiad pwysig i'n hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth, ac yn adlewyrchu amrywiaeth eang o leisiau a straeon o Gymru. Mae'r cyfle cyffrous yma yn dilyn ymlaen o'n cynllun ysgrifennu sgriptiau Cymraeg, y Labordy, a'r cynllun ffilmiau byrion presennol, Bannau, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein gwaith gyda Gŵyl Gwobr Iris ac yn falch o fod wedi'i chefnogi ers iddi ddechrau!" Bydd y ffilm derfynol yn cael ei harddangos am y tro cyntaf yn Nghaerdydd yn ystod Gŵyl Gwobr Iris ym mis Hydref 2018.   Organisers of the Iris Prize have today (11 August 2017) launched Straeon Iris 2 a Welsh language LGBT short film scheme supported by S4C and Ffilm Cymru Wales via BFI NETWORK. The aim of the scheme is to encourage more LGBT stories for the screen, from Wales, about Wales, and in Welsh. The scheme is open to individual writers and also writer and director teams and will focus on developing up to six short film scripts before selecting one to go into production. “We have been sharing our stories with as wide an audience as possible for almost 10 years. During this time we’ve seen some amazing LGBT stories in many languages from all over the world. As we look to the future I think it is only appropriate for Iris to look closer to home and support LGBT story telling through the medium of the Welsh language,” said Andrew Pierce Festival Chair. “We are delighted to be working in partnership once again with S4C and Ffilm Cymru Wales, who, between them have an unprecedented track record for supporting Welsh talent in Welsh and English. Through this partnership we will see LGBT stories from Wales in Welsh reach an international audience as we tap into our global network of partner festivals in 20 countries,” he added. Catrin Hughes Roberts, Director of Partnerships, S4C says; "Straeon Iris is a truly exciting project and we’re looking forward to working in partnership for a second time with the Iris Prize Festival and Ffilm Cymru Wales. As well as being an advocate for new Welsh drama, S4C is committed to reflecting diversity on screen. Straeon Iris promises to be an exciting opportunity for a cross section of voices to be heard, and will take the Welsh language across the world." Tracy Spottiswoode, BFI NETWORK Manager at Ffilm Cymru Wales added, “Straeon Iris is an important addition in our commitment to supporting diversity, reflecting the rich variety of voices and stories from Wales. This exciting opportunity follows our Welsh language script writing scheme Y Labordy and current short film initiative Beacons/Bannau, and we’re looking forward to expanding our work with the Iris Prize Festival, who we’re pleased to have supported since they started!” The finished film will premier in Cardiff during the Iris Prize Film Festival in October 2018. More information contact Berwyn by e-mailing: berwyn@irisprize.org