STRAEON IRIS 2 – dyddiad cau / closing date: 01/11/2017

"Mae hwn yn gyfle anhygoel i gael straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar y sgrin fawr..."
“This is an amazing opportunity to get LGBT stories on the big screen..."
Mae gan wneuthurwyr ffilm tan ddydd Mercher y 1af o Dachwedd 2017 i gael eu ceisiadau yn barod ar gyfer Straeon Iris 2. Lansiwyd Straeon Iris 2, sef cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg gyda chefnogaeth S4C a Ffilm Cymru drwy BFI NETWORK yn ystod y Steddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni. Nod y cynllun yw annog rhagor o straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar gyfer y sgrin, o Gymru, am Gymru ac yn Gymraeg. Mae'r cynllun ar agor i awduron unigol a thimau o awduron a chyfarwyddwyr, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu hyd at chwe ffilm fer cyn dewis un i gael ei chynhyrchu. "Mae hwn yn gyfle anhygoel i gael straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar y sgrin fawr gyda chefnogaeth lawn ein hariannwyr S4C a Ffilm Cymru Wales trwy BFI NETWORK. Rhan o'r daith yn unig yw cynhyrchu’r ffilm mae’r profiad yn parhau gyda’r ffilm yn sicrhau dangosiad fel rhan o ddathliadau nos agoriadol Gŵyl Gwobr Iris y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd. I fod yn gwbwl onest y ffilm hon yw'r unig ddarn o raglen 2018 sydd wedi'i gadarnhau hyd yma! "Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Iris, Berwyn Rowlands. Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C: "Mae Straeon Iris yn brosiect gwirioneddol gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio mewn partneriaeth am yr ail dro gyda Gŵyl Gwobr Iris a Ffilm Cymru. Yn ogystal â bod yn hyrwyddwr dramâu Cymraeg newydd, mae S4C wedi ymrwymo i ddangos amrywiaeth ar y sgrin. Mae Straeon Iris yn addo bod yn gyfle cyffrous i drawstoriad o leisiau gael eu clywed, ac yn ffordd o fynd â'r Gymraeg i bob cwr o'r byd." Ychwanegodd Tracy Spottiswoode, Rheolwr BFI NET.WORK yn Ffilm Cymru: "Mae Straeon Iris yn ychwanegiad pwysig i'n hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth, ac yn adlewyrchu amrywiaeth eang o leisiau a straeon o Gymru. Mae'r cyfle cyffrous yma yn dilyn ymlaen o'n cynllun ysgrifennu sgriptiau Cymraeg, y Labordy, a'r cynllun ffilmiau byrion presennol, Bannau, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein gwaith gyda Gŵyl Gwobr Iris ac yn falch o fod wedi'i chefnogi ers iddi ddechrau!" Bydd y ffilm derfynol yn cael ei harddangos am y tro cyntaf yn Nghaerdydd yn ystod Gŵyl Gwobr Iris ym mis Hydref 2018. Rhagor o wybodaeth: berwyn@irisprize.org Ffurflen Gais Film makers have until Wednesday 1 November 2017 to get their applications in for Straeon Iris 2. The organisers of the Iris Prize who launched Straeon Iris 2 a Welsh language LGBT short film scheme supported by S4C and Ffilm Cymru Wales via BFI NETWORK during the National Eisteddfod in August. The aim of the scheme is to encourage more LGBT stories for the screen, from Wales, about Wales, and in Welsh. The scheme is open to individual writers and also writer and director teams and will focus on developing up to six short film scripts before selecting one to go into production. “This is an amazing opportunity to get LGBT stories on the big screen with the full support of our funders S4C and Ffilm Cymru Wales via BFI NETWORK. Producing a short film is only part of the journey it continues with guaranteed exposure at next year’s Iris Prize Festival in Cardiff. To be hones this film is the only piece of the 2018 programme which is confirmed at this stage!” said Berwyn Rowlands Festival Director. Catrin Hughes Roberts, Director of Partnerships, S4C says; "Straeon Iris is a truly exciting project and we’re looking forward to working in partnership for a second time with the Iris Prize Festival and Ffilm Cymru Wales. As well as being an advocate for new Welsh drama, S4C is committed to reflecting diversity on screen. Straeon Iris promises to be an exciting opportunity for a cross section of voices to be heard, and will take the Welsh language across the world." Tracy Spottiswoode, BFI NETWORK Manager at Ffilm Cymru Wales added, “Straeon Iris is an important addition in our commitment to supporting diversity, reflecting the rich variety of voices and stories from Wales. This exciting opportunity follows our Welsh language script writing scheme Y Labordy and current short film initiative Beacons/Bannau, and we’re looking forward to expanding our work with the Iris Prize Festival, who we’re pleased to have supported since they started!” The finished film will premier in Cardiff during the Iris Prize Film Festival in October 2018. Application Form